Wednesday 19 June 2013


Bagiau, bagiau ...mwy o fagiau.... Diolch Enfawr

Erbyn hyn y mae 12,300 o fagiau o bob math wedi cyrraedd Canolfan Merched y Wawr yn Aberystwyth.  Carwn ddiolch i bawb am eu haelioni a chofiwch y byddwn yn parhau i gasglu tan ddiwedd mis Gorffennaf.  Ac os hoffech chi fod yn berchen ar fag un o enwogion Cymru yna rhowch fid ar ein gwefan.

Cerdded - mae nifer o ganghennau a chlybiau yn cerdded rhan o lwybr yr arfordir - cofiwch ddanfon llun i mewn ynghyd a lle y buoch yn troedio i'n galluogi i wneud map o le mae Merched y Wawr wedi cyrraedd hyd yn hyn!

Pwy sydd am fwynhau yn y Ddinas? Mae Penwythnos Preswyl Merched y Wawr yn mynd i Gaerdydd rhwng 6-8fed o Fedi - Dewch draw i ymuno yn yr hwyl! 

Saturday 28 May 2011

Cofiwch ddod a'ch esgidiau!

Cofiwch os ydych yn dod i Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe - mae croeso i chwi ddod a'ch esgidiau, cetris inc, ffonau symudol a stampiau i fewn i babell "Merhed y Wawr" - byddwn yn ei hail-gylchu a'r elw i gyd yn mynd i elusen "Achub y Plant".  Dewch yn llu i'n cynorthwy ni - Diolch!

Merched y Wawr yn eich Croesawi i Eisteddfod yr Urdd

Bore Llun fe fydd y "Wawrathon" ymlaen yn y Ganolfan groeso, paned ar ein stondin ac arddangosfa am "Jac" y ci bach cymwynasgar o Abertawe - cofiwch alw i'n gweld gydol yr wythnos.  Fe fydd croeso cynnes gan ganghenau a chlybiau Merched  y Wawr rhanbarth Gorllewin Morgannwg.  Dewch yn luu i'n gweld ni.

Wednesday 25 May 2011

Sodlau yn Siarad...!

Fel y gwyddoch un ac oll mae Merched y Wawr wrthi yn casglu esgidiau, cetris inc, stampiau  a ffonau symudol - felly beth am uno yn yr hwyl a dod a rhai draw atom i Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe... Bydd croeso ar ein stondin i chwi gydol yr Wythnos - diolch